Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Dros gyfnod o 12 diwrnod ar ddechrau’r gwyliau haf buais i a 2 disgybl arall o Benweddig yn cynhrychioli Cymru yng Nghôr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Roeddwn I’n soprano yn y côr ,Guto Lewis a Tom Kendall yn denoriaid yn y côr.

Yn dilyn y broses o glyweliadau yn mis Ionawr, cawsom wahoddiad I fynychu’r cwrs preswyl yng nghampws Prifysgol Dewi Sant Llambed lle derbyniom hyfforddiant dwys gan dim o diwtoriaid hynod brofiadol. Dysgom lawer o gerddoriaeth newydd mewn 5 iaith amrywiol! Roedd ein casgliad o ddarnau yn cynnwys darnau gan Debussy, Eric Whitacre a Dilys Elwyn-Edwards. Dysgais lawer am dechneg canu gan fy nhiwtor Fflur Wyn ac er bod y diwrnodau’n hir a blinedig, roedd yn lawer o hwyl.Roedd tipyn o gyfleoedd I ymlacio a chymdeithasu yn y gweithgareddau hamdden megis noson chwaraeon, Karaoke a gwisg ffansi a drefnwyd gan y tîm lles.

Uchafbwynt y cwrs oedd y cyfle i deithio ar draws Cymru yn perfformio ein darnau mewn lleoliadau anhygoel megis Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, Eglwys Gadeiriol Henffordd a Neuadd Dewi Sant Caerdydd. Eleni oedd y tro cyntaf i’r côr a’r gerddorfa gydweithio gan berfformio Chichester Psalms, Bernstein ar y cyd o dan arweniaid un o arweinwyr gorau’r byd ,Carlo Rizzi. Yn sicr, roedd yn brofiad hwylus tu hwnt,ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau o bob cwr o Gymru. Hoffwn ddiolch yn fawr i’r holl staff yn Nghelfyddydau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru am eu gwaith caled yn cydlynu’r holl beth!

18/09/2018

Pwy 'di pwy

Rheolwr: Mr Geraint Evans

Llinynnau: Mrs Jacky Hassan | Ms Cathryn Murray | Miss Holly Cook

Piano: Mrs Rachel Gregory

Telyn:  Ms Kay Davies

Chwythbrennau:  Miss Ali Greeley | Mrs Victoria Harwood

Pres: Mr Aidan Hassan | Mr Harvey Hassan

Offer Taro/Roc: Mr Mark Wenden

Llais: Ms Elinor Powell |Ms  Menna Rhys ( odd Griffiths )

Manylion Cysylltu

Gwasanaeth Cerdd Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE

(01970) 633 614
gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk

facebook.com/Ceredigion.Music