Cyfeillion

Sefydliad elusennol sy’n mynd ati i godi arian i gefnogi cerddorion ifanc Ceredigion yw Cymdeithas Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion. Caiff yr holl arian sy’n cael ei godi drwy wahanol weithgareddau ei ddefnyddio i brynu offerynnau ac offer cerddorol i’w defnyddio gan gerddorion ifanc y sir o dan oruchwyliaeth Gwasanaeth Cerdd Ceredigion.

Bydd y Cyfeillion yn aml yn cynnal rafflau mewn cyngherddau sy’n cael eu trefnu gan Wasanaeth Cerdd Ceredigion, lle mae’r Cerddorion Ifanc yn perfformio. Yn y gorffennol, cafwyd llawer o wahanol wobrau, gan gynnwys Ffidil, Utgorn, Clarinét, sawl potel o win, blychau o siocled a sebonau.

Dros y dwy flwyddyn ddiwethaf, mae’r ymdrechion hyn wedi sicrhau bod modd i’r Gymdeithas brynu: naw Corned, pedair Ffliwt, thri Chlarinét , tair Telyn Côl, tair Fiola Messina, tri Chorn Tenor, dau gas Clarinét, dau Gorn Ffrengig, dau Obo, un Clarinét Bas a Desg Sain Aml-drac i’w defnyddio gan Gerddorion Ifanc Ceredigion.

Mae’r aelodau’n elwa drwy gael gostyngiad o 5% yn siop Cerdd Ystwyth, Aberystwyth.

Eleni, rydym yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion, ac rydym yn mawr obeithio y byddwn yn parhau i ddod at ein gilydd am flynyddoedd lawer er budd Cerddorion Ifanc Ceredigion. Os hoffech ymuno â ni, cewch fanylion am sut i ddod yn aelod o’r Gymdeithas isod:

Y tâl tanysgrifio blynyddol er mwyn dod yn aelod o Gymdeithas Cyfeillion Cerddorion Ifanc Ceredigion yw £10. Gallwch dalu’r swm drwy lenwi Ffurflen Gorchymyn Banc Sefydlog, sydd ar gael ar y wefan uchod, neu drwy siec o £10 sy’n daladwy i: Friends of Ceredigion Young Musicians Association

Anfonwch eich ffurflen aelodaeth a’ch siec at y Trysorydd: Mr Gwyn Jones, 2 Coed y Bryn, Panteg, ABERAERON, Ceredigion, SA46 0DW

Pwy 'di pwy

Rheolwr: Mr Geraint Evans

Llinynnau: Mrs Jacky Hassan | Ms Cathryn Murray | Miss Holly Cook

Piano: Mrs Rachel Gregory

Telyn:  Ms Kay Davies

Chwythbrennau:  Miss Ali Greeley | Mrs Victoria Harwood

Pres: Mr Aidan Hassan | Mr Harvey Hassan

Offer Taro/Roc: Mr Mark Wenden

Llais: Ms Elinor Powell |Ms  Menna Rhys ( odd Griffiths )

Manylion Cysylltu

Gwasanaeth Cerdd Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE

(01970) 633 614
gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk

facebook.com/Ceredigion.Music