Yn ystod mis Ebrill es i ar gwrs Cerddorfa Cenedlaethol Plant Prydain (National Children’s Orchestra of Great Britain) am 9 diwrnod.
Roedd y cwrs yn cael ei chynnal mewn ysgol fonedd Port Regis yn Shaftesbury a ches i lawer o hwyl yno a gwnes i lawer o ffrindiau newydd o bob cwr o Brydain. Roedden ni’n cael ein tiwtorio yn ein adrannau gan cerddorion proffesiynnol ac roedd llawer ohonynt hefyd yn athrawon y colegau cerdd enwog. Ces i lawer o ‘tips’ gwych! Yn ystod yr adrannol roedden ni hefyd yn ymarfer ein cyfraniad grŵp am y sioe dalent sy’n cael ei chynnal ar y noson olaf ond un. Cefais i lawer iawn o hwyl yn gwneud hyn (ac wrth gwrs yr Obos oedd y gorau ar y noson!)
Y rhaglen oedd The Perfect Fool gan Holst, Isabella gan Frank Bridge, Tales from the Vienna Woods gan Strauss jr. a La Mer gan Debussy. Roedd yr ymarferion llawn yn anodd iawn ond eto llawer o hwyl. Roedd Howard Williams, yr arweinydd gwadd, yn brofiadol iawn ac mi lwyddodd i’n hyfforddi i gyflwyno’r darnau o’r safon uchaf. Yn ystod yr amseroedd rhydd roedd y ‘house staff’ wedi trefnu gemau a gweithgareddau i ni ond roedd hefyd amser i ni siarad â’n gilydd. Ar y diwrnod olaf roedd rhaid i ni fynd ar y bws lawr i Poole yn Dorset ar gyfer y cyngerdd cyhoeddus yn Y Lighthouse. Roedd yr wythnos yn flinedig iawn ond roedd e werth e oherwydd roedd y cyngerdd yn wych. Hwn oedd y profiad gorau dwi byth wedi cael o fod mewn cerddorfa a dwi’n edrych ymlaen yn arw at gwrs yr haf!
Efa Gregory (Oboe)
30/04/2015
Rheolwr: Mr Geraint Evans
Llinynnau: Mrs Jacky Hassan | Ms Cathryn Murray | Miss Holly Cook
Piano: Mrs Rachel Gregory
Telyn: Ms Kay Davies
Chwythbrennau: Miss Ali Greeley | Mrs Victoria Harwood
Pres: Mr Aidan Hassan | Mr Harvey Hassan
Offer Taro/Roc: Mr Mark Wenden
Llais: Ms Elinor Powell |Ms Menna Rhys ( odd Griffiths )
Gwasanaeth Cerdd Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE
(01970) 633 614
gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk