Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru

Mae gyrfa gerddorol telynores ifanc o'r Borth yn mynd o nerth i nerth yn dilyn ei llwyddiant diweddar yn 3ydd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon o'r 20ed i'r 26ain Ebrill.

Daeth Mared Emyr  Pugh-Evans, sy’n bymtheg oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig, i’r brig  gyda dwy delynores arall wnaeth ennill ysgoloriaethau o £1,500 yr un yn yr  Adran Ieuenctid ar gyfer cerddorion 19 mlwydd oed ac iau.

Yn y rownd gyntaf cyflwynodd 17 o gystadleuwyr o 8 gwlad raglen o 15 munud o gerddoriaeth, i gynnwys un gwaith gan gyfansoddwr o Gymru, i’r panel o feirniad nodedig: Jeremy Huw Williams, y bariton adnabyddus o Gymru; Imogen Barford, Pennaeth y Delyn yn ysgol gerdd a drama y Guildhall yn Llundain; a Helen Davies-Mikkelborg, y delynores fyd-enwog sydd bellach yn byw yn Denmark, ond sydd â’i gwreiddiau yn Aberystwyth.

Dewisodd y panel beirniaid chwe telynores i symud ymlaen i’r ail rownd ble y byddai rhaid iddynt gyflwyno rhaglen newydd o 20 munud, i gynnwys darn gosod o waith William Mathias, fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed eleni. Rhoddwyd cyfle i’r cystadleuwyr gyflwyno unai y 3 Improvisations adnabyddus iawn neu un symudiad o’i Sonata i’r Delyn sydd yn llawer llai adnabyddus.

Meddai Mared: “Pan wnaeth fy athrawes awgrymu y dylwn chwarae un symudiad o’r Sonata, roeddwn yn poeni braidd gan nad oeddwn wedi ei chlywed o’r blaen – ond mae’r ail symudiad yn ddarn bywiog, ysgafn tebyg i ddawns ac roedd yn her i’w ddysgu. Roedd yn well gen i wneud hyn na mynd yn ôl at yr Improvisations eto, ac fel mae’n digwydd fi oedd yr unig berson yn yr ail rownd i chwarae’r Sonata.”

Yn dilyn y rownd derfynol yma, barnwyd mai Mared oedd enillydd yr ysgoloriaeth o £1,500 a gyflwynwyd i’r ŵyl gan Gyfeillion Canolfan Gerdd William Mathias, ac mai Linda Simanauskite, Lithwania a Cassandra Tomella, Yr Eidal oedd enillwyr y ddwy ysgoloriaeth £1,500 a gyflwynwyd gan The Sickle Foundation.

Ar y dydd Iau bu’r enillwyr yn diddanu ymwelwyr i’r ŵyl mewn cyngerdd byr amser cinio, ac yn hwyrach derbyniodd Mared wahoddiad gan y Dr Rhiannon Mathias i ymuno â hi mewn cyflwyniad am ei thad a’r cyfansoddwr enwog, a drefnwyd yn arbennig ar gyfer disgyblion y Pagoda Arts Centre o Lerpwl.

Roedd y plant o’r ganolfan ddiwylliannol Tsieineaidd wedi ymweld â Chaernarfon i chwarae mewn cyngerdd gyda’u hathrawes, a gan iddynt astudio Mathias dros y misoedd blaenorol roedd hwn yn gyfle iddynt glywed am y dyn, y tad a’r cyfansoddwr gan ei ferch, ac i fwynhau perfformiad o’i waith gan Mared.

Dyma benllanw blwyddyn lwyddiannus arall i Mared gan iddi ennill y Rhuban Glas dan 16 yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013 a Gwobr Iau Gŵyl Pencerdd Gwalia ym Mhen-y-bont ar Ogwr flwyddyn yn ôl.

Caiff Mared ei hyfforddi gan Caryl Thomas, Pennaeth y Delyn, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru.

14/04/2015

Pwy 'di pwy

Rheolwr: Mr Geraint Evans

Llinynnau: Mrs Jacky Hassan | Ms Cathryn Murray | Miss Holly Cook

Piano: Mrs Rachel Gregory

Telyn:  Ms Kay Davies

Chwythbrennau:  Miss Ali Greeley | Mrs Victoria Harwood

Pres: Mr Aidan Hassan | Mr Harvey Hassan

Offer Taro/Roc: Mr Mark Wenden

Llais: Ms Elinor Powell |Ms  Menna Rhys ( odd Griffiths )

Manylion Cysylltu

Gwasanaeth Cerdd Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE

(01970) 633 614
gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk

facebook.com/Ceredigion.Music