Clyweliadau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru - Ifan Llywelyn

Eleni bues i’n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru am y pumed tro – cefais le ar y ffidil am y ddwy flynedd gyntaf, ond ers hynny rwyf wedi bod ar y trombôn. Rwy’n hoffi’r ddwy adran – ond mae llawer mwy o ‘rests’ ar gael yn rhannau’r trombôns!

Rwyf wedi bod yn cael clyweliadau ar y ddau offeryn bob blwyddyn. Ar ôl i chi yrru eich ffurflen gais (neu ffurflenni cais, os ydych am gael clyweliad ar mwy nag un offeryn), byddwch yn derbyn linc i’r ‘pecyn clyweliad’ ar gyfer eich offeryn. Mae pawb sy’n gwneud cais yn cael clyweliad. Gallwch weld pecynnau clyweliad eleni yma: http://www.nyaw.org.uk/2019-musical-ensembles-and-choir-auditions/.

Bydd angen i chi ddewis dau ddarn gwrthgyferbyniol o safon gradd 8 neu uwch – ond does dim rhaid i chi fod wedi gwneud gradd 8 (neu unrhyw arholiadau). Gallwch edrych mewn syllabus (neu hen syllabuses) i weld pa ddarnau sydd o’r safon cywir. Fel arfer mae disgwyl i un ohonynt fod gan gyfansoddwr o’r ugeinfed ganrif. Er mor gyfeillgar yw’r bobl sy’n cynnal y clyweliad, byddwch chi’n teimlo’n nerfus ar y dydd (os ydych chi fel fi), felly mae’n well dewis darnau rydych chi’n chwarae’n hyderus ac yn dda!

Bydd angen i chi allu chwarae scales, arpeggios, cromatics ac ati, fel sydd i’w ddisgwyl ar gyfer gradd 8 ABRSM. Mae cyfarwyddiadau pellach ar gyfer offerynnau unigol yn y canllawiau. Mae pawb yn casáu scales, ond mae ymarfer y rhain yn golygu marciau hawdd ar y dydd.

Bydd gofyn i chi baratoi darnau cerddorfaol o’r pecynnau. Mae’r rhain yn gallu bod yn eitha anodd, felly mae’n werth rhoi amser i drio’u cael yn iawn, gan fod llawer o bwyslais yn cael ei roi arnynt. Bydd disgwyl i chi gymryd sylw o’r marciau ar y copi – ac edrych ystyr unrhyw derm anghyfarwydd i fyny mewn geiriadur termau (gan eu bod yn gofyn i chi weithiau!). Mae hefyd yn werth trio gwrando ar recordiad o’r darnau (bydd y rhan fwyaf ar Youtube), er mwyn cael synnwyr da o gymeriad a tempo y darn.

Yn olaf bydd gofyn i chi chwarae dau ddarn byr ar yr olwg gyntaf – byddan nhw’n rhoi ychydig funudau i chi baratoi’r rhain yn y stafell glyweliad, a gallwch chwarae drwyddynt unwaith. Fel arfer mae angen gofal gyda’r rhythmau a gyda’r sharps a’r fflats, a chydag unrhyw arwyddion deinameg neu dempo – felly mae’n werth cymryd eich amser i’w paratoi. Mae llawer iawn o gerddoriaeth i’w ddysgu ar y cwrs, felly mae’r gallu i ddarllen yn gywir ac yn hyderus yn bwysig.

Pan fyddwch chi wedi cyrraedd canolfan y clyweliad, byddwch yn cael cynhesu eich offeryn mewn neuadd. Os ydych chi’n chwarae offeryn pres neu chwyth mae’n rhaid i chi beidio â theimlo’n swil o flaen pobl eraill sy’n disgwyl – yn aml os ydych chi’n dechrau chwarae, bydd y lleill yn gwneud yr un fath! Yn y clyweliad ei hun, os yw amser yn brin, falle mai ychydig fariau o’ch darnau fydd angen i chi chwarae (os ydyn nhw’n eich stopio chi, dyw e ddim yn golygu nad ydyn nhw’n hoffi eich chwarae, ond eu bod nhw’n rhedeg yn hwyr a’u bod wedi clywed digon i wneud penderfyniad!).

Yn olaf, mwynhewch y profiad – a gobeithio y cewch le yn y gerddorfa, achos mae’n brofiad bythgofiadwy! Pob lwc!

02/10/2018

Pwy 'di pwy

Rheolwr: Mr Geraint Evans

Llinynnau: Mrs Jacky Hassan | Ms Cathryn Murray | Miss Holly Cook

Piano: Mrs Rachel Gregory

Telyn:  Ms Kay Davies

Chwythbrennau:  Miss Ali Greeley | Mrs Victoria Harwood

Pres: Mr Aidan Hassan | Mr Harvey Hassan

Offer Taro/Roc: Mr Mark Wenden

Llais: Ms Elinor Powell |Ms  Menna Rhys ( odd Griffiths )

Manylion Cysylltu

Gwasanaeth Cerdd Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE

(01970) 633 614
gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk

facebook.com/Ceredigion.Music