Adroddiad Cwrs Gwanwyn NCO

Yn ystod mis Ebrill es i ar gwrs Cerddorfa Cenedlaethol Plant Prydain (National Children’s Orchestra of Great Britain) am 9 diwrnod.

Efa Gregory

Roedd y cwrs yn cael ei chynnal mewn ysgol fonedd Port Regis yn Shaftesbury a ches i lawer o hwyl yno a gwnes i lawer o ffrindiau newydd o bob cwr o Brydain.  Roedden ni’n cael ein tiwtorio yn ein adrannau gan cerddorion proffesiynnol ac roedd llawer ohonynt hefyd yn athrawon y colegau cerdd enwog.  Ces i lawer o ‘tips’ gwych!  Yn ystod yr adrannol roedden ni hefyd yn ymarfer ein cyfraniad grŵp am y sioe dalent sy’n cael ei chynnal ar y noson olaf ond un.  Cefais i lawer iawn o hwyl yn gwneud hyn (ac wrth gwrs yr Obos oedd y gorau ar y noson!)

Y rhaglen oedd The Perfect Fool gan Holst, Isabella gan Frank Bridge, Tales from the Vienna Woods gan Strauss jr. a La Mer gan Debussy.  Roedd yr ymarferion llawn yn anodd iawn ond eto llawer o hwyl.  Roedd Howard Williams, yr arweinydd gwadd, yn brofiadol iawn ac mi lwyddodd i’n hyfforddi i gyflwyno’r darnau o’r safon uchaf.  Yn ystod yr amseroedd rhydd roedd y ‘house staff’ wedi trefnu gemau a gweithgareddau i ni ond roedd hefyd amser i ni siarad â’n gilydd.  Ar y diwrnod olaf roedd rhaid i ni fynd ar y bws lawr i Poole yn Dorset ar gyfer y cyngerdd cyhoeddus yn Y Lighthouse.  Roedd yr wythnos yn flinedig iawn ond roedd e werth e oherwydd roedd y cyngerdd yn wych.  Hwn oedd y profiad gorau dwi byth wedi cael o fod mewn cerddorfa a dwi’n edrych ymlaen yn arw at gwrs yr haf!

Efa Gregory (Oboe)

30/04/2015

Pwy 'di pwy

Rheolwr: Mr Geraint Evans

Llinynnau: Mrs Jacky Hassan | Ms Cathryn Murray | Miss Holly Cook

Piano: Mrs Rachel Gregory

Telyn:  Ms Kay Davies

Chwythbrennau:  Miss Ali Greeley | Mrs Victoria Harwood

Pres: Mr Aidan Hassan | Mr Harvey Hassan

Offer Taro/Roc: Mr Mark Wenden

Llais: Ms Elinor Powell |Ms  Menna Rhys ( odd Griffiths )

Manylion Cysylltu

Gwasanaeth Cerdd Ceredigion
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE

(01970) 633 614
gwasanaeth.cerdd@ceredigion.gov.uk

facebook.com/Ceredigion.Music